2 Chronicles 7:6
A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a’r Lefiaid ag offer cerdd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr ARGLWYDD, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 6:4A dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r udgyrn.
1 Chronicles 13:8A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, a’u holl nertha ac a chaniadau, ac a thelynau, ac a nablau, ac a thympanau, ac a symbalau, ac ag utgyrn. º
1 Chronicles 15:19Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio a symbalau pres. º
1 Chronicles 16:4Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori AR¬GLWYDD DDUW Israel. º
1 Chronicles 16:39Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernad yr AR¬GLWYDD, yn yr uchelfa oedd yn Gib’eon, º
1 Chronicles 25:1Aneilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent a thelynau, ac.a nablau, ac a symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd: º