Llyfr Josua 6:4
A dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r udgyrn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 2:3A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef; oblegid ynddo y gorphwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur.
Leviticus 4:6A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed ger bron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cyssegr.
Leviticus 25:8¶ Cyfrif hefyd i ti saith Sabbath o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Sabbath o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.
Numbers 10:8A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr udgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau.
Numbers 23:1Dammeg Balaam. A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; i darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod.
Judges 7:15A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a’i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr ARGLWYDD fyddin y Mid¬ianiaid yn eich llaw chwi.