2 Chronicles 9:29
A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahia y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o’r Aifft, ac o bob gwlad.
30A Solomon a deyrnasodd yn Jerw¬salem ar holl Israel ddeugain mlynedd.
Cross References
2 Samuel 12:1AR ARGLWYDD a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. º
1 Kings 1:8Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia.
1 Kings 1:22Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin, y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn.
1 Kings 11:26A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw.) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin. º
1 Kings 11:41A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon? º
1 Chronicles 29:29Ac am weithredoedd cyntafa diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweled¬ydd, º