The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 9

1A phan glybu brenhines Seba glod Solomon, hi a ddaeth i Jerwsalem, i brofi Solomon â chwestiynau caled, â llu mawr iawn, ac â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Solomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.

2A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a’r na fynegodd efe iddi hi.

3A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe,

4A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad, a’i drulliadau ef, a’u gwisgoedd, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr ai efe i fyny i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.

5A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad, am dy weithredoedd di, ac am dy ddoeth¬ineb:

6Eto ni choeliais i’w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i.

7Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb.

8Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr ARGLWYDD dy DDUW: oherwydd cariad dy DDUW tuag at Israel, i’w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder.

9A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd bren¬hines Seba i’r brenin Solomon.

10Gweision Hiram hefyd, a gweision Solomon, y rhai a ddygasant aur o Offir, a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr.

11A’r brenin a wnaeth o’r coed algu¬mim risiau i dŷ yr ARGLWYDD, ac i dŷ y brenin, a thelynau a nablau i’r cantorion: ac ni welsid eu bath o’r blaen yng ngwlad Jwda.

12A’r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a’r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i’r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.

13A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;

14Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a’r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.

15A’r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian.

16A thri chant o fwcledi o aur dilin: tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus.

17A’r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori, ac a’i gwisgodd ag aur pur.

18A chwech o risiau oedd i’r orseddfa, a throedle o aur, ynglyn wrth yr orseddfa, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau;

19A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu. Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas.

20A holl llestri diod y brenin Solomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur: nid oedd yr un o arian; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon.

21Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram: unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.

22A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.

23A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef.

24A hwy a ddygasant bod un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.

25Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch; ac efe a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem.

26Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, a hyd derfyn yr Aifft.

27A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir, o amldra.

28Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o’r Aifft, ac o bob gwlad.

29A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahia y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?

30A Solomon a deyrnasodd yn Jerw¬salem ar holl Israel ddeugain mlynedd.

31A Solomon a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← 2 Chronicles 8Read In The App, Free →2 Chronicles 10 →

Study 2 Chronicles 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536