2 Corinthians 9:13
Gan eu bod, trwy brofiad y wein¬idogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ruth 2:19A dywedodd ei chwegr wrthi hi. Pa Ie y lloffaist heddiw, a pha Ie y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.
Matthew 5:16Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Luke 6:46Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneulhur yr hyn yr wyf yn ôl ddywedyd?
Acts 4:21Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i’w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.
Acts 21:19Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.
Romans 16:26Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd-dod ffydd:)