The Bible Software
2 Corinthians · Beibl (1620)

2 Corinthians 9

1

2

3A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:

4Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn ninharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hydetus.yma.

5Mi a dybiais gan hynny yn angen-rheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ‘ddyfod o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid "megis o gybydd-dra.

6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth.

7Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.

8Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:

9(Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dra-gywydd.

10A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)

11Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.

12Canys y mae gweinidogaeth y swydd toon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y Saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy ami roddi diolch i Dduw;

13Gan eu bod, trwy brofiad y wein¬idogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;

14A thrwy eu gweddi hwythau dros-O’eh chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.

15Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.

← 2 Corinthians 8Read In The App, Free →2 Corinthians 10 →

Study 2 Corinthians 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213