Llyfr Cyntaf y Cronicl 10:15
A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu a Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, xxx ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 10
Cross References
Genesis 31:55A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.
Genesis 47:10A bendithiodd Jacob Pharaoh, ac a aeth allan o ŵydd Pharaoh.
2 Kings 9:21A Joram a ddywedodd, Rhwym ff cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jena, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad. º
1 Chronicles 2:55A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethani o Hemath, tad tylwyth Rechab.
1 Chronicles 12:18A’r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywed¬odd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y.byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i’th gynorthwywyr; oherwydd dy DDUW sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a’u croesawodd hwynt, ac a’u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin. º
Nehemiah 3:14Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab, tywysog rhan o Beth-haccerem; efe a’i hadeiladodd, ac a osododd ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau.