Llyfr Genesis 31:55
A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 18:33A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan âg Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.
Genesis 28:1Adduned Jacob. Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymmer wraig o ferched Canaan.
Genesis 31:28Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffol, gan wneuthur hyn.
Genesis 33:4Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant.
Numbers 23:8Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd?
Numbers 24:25A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i’w ffordd yntau.