2 Peter 1:8
Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad.
Cross References
Matthew 13:22A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.
Matthew 20:6Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?
John 5:42Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
John 15:6Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir.
1 Corinthians 15:58Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
2 Corinthians 8:2Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn diodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.