2 Peter 1:9
Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 13:55Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan, llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o’r tu mewn ai o’r tu allan.
Luke 18:22A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth eto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; â thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
Romans 6:1Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras?
2 Corinthians 4:3Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig:
Galatians 5:13Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd.
Titus 2:14Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.