2 Peter 3:17
Chwychwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol, a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Matthew 7:15¶ Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.
Matthew 16:11Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid?
Mark 13:22Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.
Acts 2:42Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau.
1 Corinthians 10:12Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.
2 Corinthians 11:3Ond y mae amaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist.