Yr Efengyl yn ôl Mathew 7:15
¶ Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 7
Cross References
Isaiah 9:15Yr hcnwr a’r anrhydeddas yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwyddi-efe yw y gynffon. º
Jeremiah 14:14Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proff¬wydo i chwi.
Jeremiah 28:15Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. º
Jeremiah 29:32Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele mi a ymwelaf a Semaia y Nehelamiad, ac a’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yl ARGLWYDD; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.:
Ezekiel 13:22Am dristau calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o'i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes;
Ezekiel 22:27Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu' ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.