Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 11:2
A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen ty y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu, wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 11
Cross References
Genesis 3:6A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o’i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i’w gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd.
Genesis 12:11A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aipht, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:
Genesis 39:6Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseph; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gyd âg ef, oddi eithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwytta: Joseph hefyd oedd dêg o bryd, a glân yr olwg.
Deuteronomy 22:8¶ Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.
2 Samuel 4:5A meibion Rimmon y Beerothiad, Rechab a Baana, a aethant ac a ddaethant, pan wresogasai y dydd, i dŷ Isboseth; ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.
2 Samuel 13:1A ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi. º