The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 11

1A wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem. º

2A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen ty y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu, wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg. º

3A Dafydd a anfonodd ac a ymofyn-, nodd am y wraig: ac un a ddywedodd," Onid hon yw Bathseba merch Eli’am, gwraig Ureias yr Hethiad? º

4A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun. º

5A’r wraig a feichiogodd, ac a anfon¬odd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddy¬wedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog. º

6A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. º

7A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd âm lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel. º

8Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, DOS i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dy y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef. º

9Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws ty y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. º

10Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dy ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun? º

11A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m ty fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn. º

12A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth. º

13A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun. º

14A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. º

15Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw. º

16A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo. º

17A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant a Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. º

18Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: º

19Ac a orchmynnodd i’r gennad, gan ddywedyd. Pan orffennych lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin: º

20Os cyfyd llidiowgrwydd y brenin, ac os dywed wrthyt, Paham y nesasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer? º

21Pwy a drawodd Abimelech fab Jerwbbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mur, fel y bu efe farw yn Thebes? paham y nesasoch at y mur? yna y dywedi, Dy was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. º

22Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Dafydd yr hyn oll yr anfonasai Joab ef o’i blegid. º

23A’r gennad a ddywedodd wrth Da¬fydd, Yn ddiau y gwŷr oeddynt drech na ni, ac a ddaethant atom ni i’r maes, a ninnau a aethom arnynt hwy hyd ddrws y porth. º

24A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mur; a rhai o weisiofa y brenin a fuant feirw; a’th was Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd. º

25Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad. Fel hyn y dywedi di wrth Joab, Na fydded hyn ddrwg yn dy oiwg di: canys y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf; cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef. º

26A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod. º

27A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddug iddo fab. A drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd y peth a wnaethai Dafydd.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 10Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 12 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324