Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21:17
Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21
Cross References
2 Samuel 14:7Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i’m gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.
2 Samuel 18:3Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas. º
2 Samuel 22:19Achubasant fy miaen. yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi. º
1 Kings 11:36Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth, xxx fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. º
Psalms 46:1I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau. Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.
Psalms 144:10Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy NUW: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb