The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21

1A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymo-fynnodd gerbron yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dy gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid. º

2A’r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a’r Gibeon¬iaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o’i serch i feibion Israel a Jwda.) º

3A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac & pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr ARGLWYDD? º

4A’r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dy ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi. º

5A hwy a ddywedasant with y brenin, Y gŵr a’n difethodd ni, ac a fwriadodd i’n herbyn ni, i’n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel, º

6Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. º

7Ond y brenin a arbedodd Meffi-boseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr ARGLWYDD yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul. º

8Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddug hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad: º

9Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a’u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a’r saith hyn a gydgwympasant, ac a rodd-wyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o’r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd. º

10A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a’i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o’r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos. º

11A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul. º

12A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul," ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a’u lladratasent hwy o heol Bethsan yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa. º

13Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy 9 gasglasant esgyrn y rhai a grogasid. º

14A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i’r wlad ar ôl hyn. º

15A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a’i weision gydag ef, ac a ymladdasant a’r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd. º

16Ac Isbi-benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu a chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd. º

17Ond Abisai mab Serfia a’i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel. º

18Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr. º

19A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaare-oregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. º

20A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i’r cawr. º

21Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a’i lladdodd ef. º

22Y pedwar hyn a aned i’r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 20Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 22 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324