Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 3:29
Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dy ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 3
Cross References
Exodus 21:19Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y tarawydd a fydd dïangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.
Leviticus 15:2Llefarwch wrth feibion Israel, a dywedwch wrthynt, Pob un pan fyddo diferlif yn rhedeg o’i gnawd, a fydd aflan oblegid ei ddiferlif.
Judges 9:24Fel y delai y traha a wnaethid a deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a’u lladdodd hwynt: ac ar wŷr Sichem, y rhai a’i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.; º
1 Samuel 2:32A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.
1 Kings 2:31A dywedodd y brenin wrtho ef, Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac oddi ar dŷ fy nhad i.
1 Kings 2:33A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i’w had, ac i’w dŷ, ac i’w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr ARGLWYDD.