The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 3

1A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned. gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.

2A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf-anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles;

3A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur;

4A’r pedwerydd, Adoneia, mab Hag-gith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital:

5A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.

6A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.

7Ond i Saul y buasai ordderchwraig a’i henw Rispa, merch Aia: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, Paham yr aethost i mewn at ordderchwraig fy nhad?

8Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddy¬wedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw?

9Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd, felly y gwnaf iddo ef,

10Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a dyrchafu gorseddfainc Dafydd ar Israel, ac ar Jwda, o Dan hyd Beer-seba.

11Ac ni feiddiodd efe mwyach ateb gair i Abner, rhag ei ofn ef.

12Ac Abner a anfonodd genhadau at Dafydd drosto ei hun, gan ddywedyd, Eiddo pwy yw y wlad? a chan ddywedyd, Gwna gynghrair â mi; ac wele, fy llaw i fydd gyda thi, i droi atat ti holl Israel.

13A dywedodd yntau. Da; myfi a wnaf gyfamod â thi: eto un peth yr ydwyf fi yn ei geisio gennyt, gan ddy¬wedyd, Ni weli fy wyneb, oni ddygi di yn gyntaf Michal merch Saul, pan ddelych i edrych yn fy wyneb.

14A Dafydd a anfonodd genhadau at Isboseth mab Saul, gan ddywedyd, Dyro i mi fy ngwraig Michal, yr hon a ddyweddïais i mi am gant o flaengrwyn y Philistiaid.

15Ac Isboseth a anfonodd, ac a’i dug hi oddi wrth ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel mab Lais.

16A’i gŵr a aeth gyda hi, gan fyned ac wylo ar ei hôl hi, hyd Bahurim. Yna y dywedodd Abner wrtho ef, Dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.

17Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel, gan ddywedyd, Cyn hyn yr oeddech chwi yn ceisio Dafydd yn frenin arnoch.

18Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr ARGLWYDD a lefarodd am Dafydd, gan ddywedyd, Trwy law Dafydd fy ngwas y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion.

19Dywedodd Abner hefyd wrth Ben¬jamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yng ngolwg Israel, ac yng ngolwg holl dŷ Benjamin.

20Felly Abner a ddaeth at Dafydd i Hebron, ac ugeinwr gydag ef. A Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwŷr oedd gydag ef.

21A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.

22Ac wele weision Dafydd a Joab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddygasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron; canys efe a’i gollyngasai ef ymaith, ac yntau a aethai mewn heddwch.

23Pan ddaeth Joab a’r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddy¬wedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe ai gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch.

24A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?

25Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.

26A Joab aaeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira; heb wybod i Dafydd.

27A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a’i trodd ef o’r neilitu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn hedd¬wch; ac a’i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.

28Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a’m brenhiniaeth gerbron yr ARGLWYDD byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:

29Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dy ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.

30Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.

31A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.

32A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A’r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a’r holl bobl a wylasant.

33A’r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?:

34Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi, mewn egwydydd: syrthaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A’r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.

35A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul.

36A’r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.

37A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.

38A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?

39A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a’r gwŷr hyn, meib¬ion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr ARGLWYDD a dâl i’r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 2Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 4 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324