Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 7:27
Canys ti, O ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 7
Cross References
Ruth 4:4A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Pryn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf.
1 Kings 11:38Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dy sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti. º
Psalms 10:17Y rhai drygionus a ymchwelant i uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.