The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 7

1A phan eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o’r ARGLWYDD lonydd iddo ef rhag ei holl elynion oddi amgylch:

2Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, ac arch Duw yn aros o fewn y cortynnau.

3A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: canys yr ARGLWYDD sydd gyda thi.

4A bu, y noson honno, i air yr AR¬GLWYDD ddyfod at Nathan, gan ddy¬wedyd,

5Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai tydi a adeiledi i mi dŷ, lle y cyfanheddwyf fi?

6Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aifft, hyd y dydd hwn, eithr bûm yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl.

7Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i’r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddy¬wedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?

8Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.

9A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o’th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear.

10Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt;

11Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A’r ARGLWYDD sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.

12A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda’th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o’th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.

13Efe a adeilada dŷ i’m henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei fren¬hiniaeth ef byth.

14Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a’i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion:

15Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o’th flaen di.

16A’th dŷ di a sicrheir, a’th frenhiniaeth, yn dragywydd o’th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.

17Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

18Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr AR¬GLWYDD: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd DDUW? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?

19Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd DDUW; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd DDUW?

20A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd DDUW.

21Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i’th was eu gwybod.

22Am hynny y’th fawrhawyd, O ARGLWYDD DDUW; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau

23A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o’r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a’u duwiau?

24Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, ydwyt iddynt hwy yn DDUW.

25Ac yn awr, O ARGLWYDD DDUW, cwblha byth y gair a leferaist am dŷ was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist.

26A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, ARGLWYDD y lluoedd sydd DDUW ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di.

27Canys ti, O ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i’th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon.

28Ac yn awr, O Arglwydd DDUW, tydi sydd DDUW, a’th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn.

29Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd DDUW, a leferaist, ac â’th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 6Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 8 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324