Ail Llythyr Paul at Timotheus 2:14
Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun.
Read all of Ail Llythyr Paul at Timotheus 2
Cross References
1 Samuel 12:21Ac na chiliwch: canys felly yr aech as ôl oferedd, y rhai ni lesant, ac ni’ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy. º
Jeremiah 2:11A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd.
Jeremiah 16:19Oarglwydd, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. º
Jeremiah 23:36Ond am faich yr ARGLWYDD na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwy-chwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, ARGLWYDD y lluoedd, ein Duw ni. º
Matthew 16:26Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
Acts 15:24Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw’r ddeddf; i’r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn: