Actau'r Apostolion 12:7
Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 12
Cross References
2 Samuel 22:29Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch. º
1 Kings 19:7Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd. º
Psalms 107:14Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant DDUW yn y diffeithwch.
Psalms 142:6Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau canys melys ydynt.
Isaiah 37:30A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. º