Actau'r Apostolion 14:27
Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion.
Read all of Actau'r Apostolion 14
Cross References
Acts 11:18A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.
Acts 15:12A’r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cen¬hedloedd trwyddynt hwy.
Romans 15:18Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred,
1 Corinthians 5:4Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist,
1 Corinthians 14:23Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi-gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu?
1 Corinthians 16:9Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer.