Actau'r Apostolion 16:17
Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 16
Cross References
Psalms 57:2Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf.
Daniel 3:26Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.
Daniel 4:2Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf DDUW â mi.
Daniel 5:21Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y DUW goruchaf oedd. yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno.
Daniel 6:20A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?
Micah 6:6A pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethonrymau, ac â dyniewaid?