Llyfr Daniel 3:26
Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 3:17A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, y’nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.
Joshua 4:16Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod o honynt i fynu allan o’r Iorddonen.
Ezra 5:11A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd ef.
Isaiah 28:16Am hynny fel hyn y dywed yr AR-eLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo. º
Daniel 2:47Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich DUWchwi yw DUW y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn.
Daniel 4:2Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf DDUW â mi.