Actau'r Apostolion 17:3
Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 17
Cross References
Luke 24:32A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau?
Luke 24:46Ac efe a ddywedodd wrthynt. Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:
Acts 1:4Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi.
Acts 3:18Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai, Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.
Acts 9:22Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist.
Acts 18:28Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist.