Actau'r Apostolion 17
1.Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaeth¬ant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon.
2A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresyiaodd â hwynt allan o’r ysgrythurau,
3Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw’r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi.
4A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o’r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig.
5Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.
6A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o’r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu’r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd;
7Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae’r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu.
8A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llyw¬odraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn.
9Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a’r lleill, hwy a’u gollyngasant hwynt ymaith.
10A’r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon.
11Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly.
12Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig.
13A phan wybu’r Iddewon o Thesa¬lonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi’r dyrfa.
14Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i’r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno.
15A chyfarwyddwyr Paul a’i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchy¬myn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.
16A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod.
17Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â’r Iddewon, ac a’r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef.
18A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ym ddadleuasant âg ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu yr Iesu, a'r adgyfodiad iddynt.
19A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth ytv y ddysg newydd hon, a draethir gennyt?
20Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n chistiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai y pethau hyn fod.
21(AV holl Atheniaid, a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymmeryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)
221Í Yna y safodd Paul y'nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choel-grefyddol:
23Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych areich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr vsgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.
24Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylaw:
25Ac nid â dwylaw dynion y gwasanaethir ef, "^fel pe bai arno eisieu dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oil.
26Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhag-osodedig, a ""therfynau eu preswylfod hwynt;
27° Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau neppell oddi wrth bob un o honom:
28Oblegid ° ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod; p megis y dy wedodd rhai o'ch pöetau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.
29Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, i ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn. 1040
30' A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awrhon yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhâu:
31herwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn ' y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gwr a ordeiniodd efe; gan roddi fiydd i bawb, herwydd "darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
32IT A phan glywsant son am adgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn.
33Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt.
34Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ym mhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyd â hwynt.