Actau'r Apostolion 19:9
Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu, beunydd yn ysgol un Tyrannus.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 19
Cross References
2 Kings 17:14Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr ARGLWYDD eu Duw. º
2 Chronicles 36:16Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.
Nehemiah 9:29A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.
Proverbs 8:34Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.
Jeremiah 7:26Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu dust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.
Matthew 15:14Gadewch iddynt: tywysogion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.