Actau'r Apostolion 4:13
A phan welsant hyfder Pedr ac loan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a’u hadwaenent, eu bod hwy gyda’r Iesu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 4
Cross References
Matthew 4:18¶ A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:
Matthew 26:57¶ A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.
Matthew 26:73Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
Luke 22:52A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r’ henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, a chleddyfau ac a ffyn?
John 7:15A’r Iddewon a ryfeddasant,. gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu?
John 18:16A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn.