Actau'r Apostolion 7:30
Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn an ialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
29A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.
Read all of Actau'r Apostolion 7
Cross References
Genesis 22:15¶ Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd;
Genesis 48:15¶ Ac efe a fendithiodd Joseph, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,
Exodus 3:6Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw.
Exodus 19:1Dychrynllyd bresennoldeb Duw ar y mynydd. Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.
Deuteronomy 33:16Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â’i chyflawnder, ac âg ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a neillduwyd oddi wrth ei frodyr.
Psalms 66:12Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwgregysant â hyfrydwch.