Llyfr Amos 2:9
Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Numbers 13:28Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.
Numbers 21:23Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.
Deuteronomy 1:28I ba le yr awn i fynu? ein brodyr a’n digalonnasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hŵy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
Deuteronomy 2:24¶ Cyfodwch, cychwynwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenhin Hesbon, yr Amoriad, a’i wlad ef; dechreu ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.
Deuteronomy 9:1Moses yn eu hannog, nad ymddiriedent yn eu cyfiawnder eu hunain: gan ddatgan eu hamryw wrthryfel hwynt. Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddyw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchennogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;