Llyfr Numeri 13:28
Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 13:33Ac yno y gwelsom y cawri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cawri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.
Deuteronomy 2:10(Yr Emiaid o’r blaen a gyfanneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;
Deuteronomy 3:5Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heb law dinasoedd heb furiau lawer iawn.
Joshua 11:22Ni adawyd un o’r Anaciaid y’ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gazah, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.
Joshua 15:14A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.