Llyfr Amos 4:10
Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 9:3Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.
Exodus 9:17A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl etto, heb eu gollwng hwynt ymaith?
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Exodus 12:29¶ Ac ar hanner nos y tarawodd y Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig Pharaoh yr hwn a eisteddai ar ei frenhin-faingc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail.
Exodus 15:26Ac a ddywedodd, Os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchymynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddai ar yr Aiphtiaid; o herwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.
Leviticus 26:25A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddïal fy nghyfammod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.