Llyfr Amos 5:14
Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw.
Cross References
Genesis 39:23Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gyd âg ef; a’r hyn a wnai efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.
Numbers 16:3Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob un o honynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?
1 Chronicles 28:20A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfhâ, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac na arswyda: canys yr ARGLWYDD DDUW, fy Nuw i, fydd gyd â thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD. º
Psalms 34:12Gwyn ei byd y genedl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
Psalms 46:11A’r Brenin a chwennych dy degwch; canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.
Proverbs 11:27Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw.