Ail Lyfr y Cronicl 28:20
A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfhâ, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac na arswyda: canys yr ARGLWYDD DDUW, fy Nuw i, fydd gyd â thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 28
Cross References
Deuteronomy 31:7¶ A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho y’ngolwg holl Israel, Ymgadarnhâ, ac ymnertha: canys ti a âi gyd â’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.
Joshua 1:5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Joshua 1:9Oni orchymynais i ti? Ymgryfhâ, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnag yr elych.
1 Chronicles 22:13Yna y flynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel* ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda. º
Ezra 10:4Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna.
Isaiah 41:10Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder. º