Llyfr Amos 6:2
Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais;
Cross References
1 Samuel 5:8Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno.
1 Samuel 17:4A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant. º
2 Samuel 8:9Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser; º
2 Kings 17:24II A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi. º
2 Kings 18:34Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw’i? º
2 Chronicles 26:6Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid.