The Bible Software
Llyfr Amos · Beibl (1620)

Llyfr Amos 6

1Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y rhai a enwir yn bennaf o’r cenhedloedd, y rhai y daeth t^ Israel atynt!

2Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na’ch terfyn chwi?

3Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais;

4Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cut;

5Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl, dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd;

6Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â’r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.

7Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a ddygir yn gaetlh; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir.

8Tyngodd yr ARGLWYDD DDUW iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwyidd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.

9A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw.

10Ei ewythr a’i cyfyd i fyny, a’r hwn a’i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo with ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau. Taw, am na wasanaetha cofio enw yr ARGLWYDD.

11Oherwydd wele yr ARGLWYDD yn gorchymyn, ac efe a dery y tŷ mawr agennau, a’r tŷ bychan â holltau.

12A red meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.

13O chwi y rhai sydd yn llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, Onid o’n nerth ein hun y cymerasom i ni gryfder?

14Ond wele, mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, genedl, a hwy a’ch cystuddiant chwi, o’r ffordd yr ewch i Hamath, hyd afon y diffeithwch.

← Llyfr Amos 5Read In The App, Free →Llyfr Amos 7 →

Study Llyfr Amos 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789