Llyfr Amos 8:2
Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf.
Cross References
Genesis 6:13A Duw a ddywedodd wrth Noah, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyd â’r ddaear.
2 Samuel 16:1Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win.
Jeremiah 1:11Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.
Jeremiah 1:13A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais. Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd.
Jeremiah 24:1"VR ARGLWYDD a ddangosodd i mi, ac — wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer tcml yr ARGLWYDD, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon. º