The Bible Software
Llyfr Amos · Beibl (1620)

Llyfr Amos 8

1Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf.

2Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach.

3Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw.

4Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir,

5Gan ddywedyd. Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll?

6I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?

7Tyngodd yr ARGLWYDD i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiodd byth yr un o’u gweithredoedd hwynt.

8Oni chryn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft.

9A’r dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD DDUW, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau.

10Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob, pen: a mi a’i’gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.

11Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr ARGLWYDD.

12A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr ARGLWYDD, ac nis cant.

13Y diwmod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched.

14Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.

← Llyfr Amos 7Read In The App, Free →Llyfr Amos 9 →

Study Llyfr Amos 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789