Llyfr Amos 9:12
Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr ARGLWYDD, yr hwn a wna hyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 27:29Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melldigedig fyddo a’th felldithio, a bendigedig a’th fendithio.
Numbers 24:17Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw Seren o Jacob, a chyfyd teyrn-wïalen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinystria holl feibion Seth.
Psalms 60:8Ond tydi, O ARGLWYDD, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
Isaiah 14:1CANYS yr ARGLWYDD a dosturia wrth. Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain; a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob. º
Isaiah 63:19Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.
Jeremiah 14:9Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.