The Bible Software
Llyfr Amos · Beibl (1620)

Llyfr Amos 9

1Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango.

2Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno:

3A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y mor, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt:

4Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.

5Ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gylyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft.

6Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y mo^r, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw.

7Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr ARGLWYDD: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r Philisitiaid o Cafftor, a’r Syriaid o Cir?

8Wele lygaid yr ARGLWYDD ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD.

9Canys wele, myfi a orchmynnaf,. ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr.

10Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.

11Y dydd hwnnw y codaf babell i Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt:

12Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr ARGLWYDD, yr hwn a wna hyn.

13Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant!

14A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt.

15Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.

← Llyfr Amos 8Read In The App, Free →Obadiah 1 →

Study Llyfr Amos 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789