Llyfr Amos 9:15
Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Jeremiah 16:15Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau. º
Jeremiah 32:41Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, a’m holl galon, ac a’m holl enaid. º
Ezekiel 37:25Trigant hefyd yn y tir a roddais i'm gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a'u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd.
Micah 4:4Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a'i llefarodd.