Llyfr Amos 9:6
Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y mo^r, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 7:11¶ Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.
Exodus 3:14A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, YDWYF a’m hanfonodd attoch.
Psalms 104:5Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
Jeremiah 5:22Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
Amos 5:8Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos, yr hwn a eilw ddyfroedd y mor, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw: