Llyfr Daniel 1:15
Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na’r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a’u profodd.hwynt ddeg o ddyddiau.
16Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a’r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
Cross References
Deuteronomy 28:1Melldithion am anufudd-dod. Ac os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchymynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.
Haggai 1:6Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb, a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
Malachi 2:2Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i'm henw i, medd ARGLWYDD y lluoedd; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi, ac a felltithiaf eich bendithion chwi: ie, myfi a'u melltithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried.
Mark 6:41Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.