Llyfr Haggai 1:6
Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb, a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystryiwch eich ffyrdd.
7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
Cross References
Leviticus 26:26A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwyttêwch, ac nis digonir chwi.
Deuteronomy 28:38Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: o herwydd y locust a’i hysa.
1 Kings 17:12A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ysten: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. º
Job 20:28Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.
Proverbs 11:24Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.
Jeremiah 12:13Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt; a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr ARGLWYDD.