Llyfr Daniel 11:22
Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o’i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 8:7Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogonant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef. º
Daniel 8:11Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastodol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.
Daniel 9:26Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd diwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol.
Amos 8:8Oni chryn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft.
Nahum 1:8A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.