Llyfr Daniel 11:21
Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 3:13Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt.
2 Samuel 15:6Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel.
Psalms 15:4Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr ARGLWYDD.
Isaiah 32:5Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw,. º
Daniel 8:9Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r hyfryd wlad.
Daniel 8:25A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.