Llyfr Daniel 11:6
Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na’i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a’r rhai a’i dygasant hi, a’r hwn a’i cenhedlodd hi, a’i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Job 38:15Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.
Ezekiel 30:21Ha fab dyn, torrais fraich Phaeo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osodi rhwymyn i rwymo, i'w gryfhau i ddal y cleddyf.
Daniel 11:7Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga;
Daniel 11:15Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na’i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.
Zechariah 11:16Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.