Llyfr Daniel 11:15
Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na’i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 1:5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Jeremiah 5:10Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei murganllawiau hi: canys nid eiddo’r ARGLWYDD ydynt.
Jeremiah 33:4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd a pheiriannau rhyfel, ac a chleddyf; º
Ezekiel 4:2A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o'i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.
Daniel 8:7Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef.