Llyfr Daniel 12:10
Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd.
Cross References
Psalms 51:7Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf fi.
Proverbs 1:5Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:
Isaiah 1:18Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.
Ezekiel 36:25Ac a daenellaf arnoch ddwfr glanj fel y byddoch lan: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi.
Daniel 11:33A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer.
Daniel 12:3A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd.